A
fyddech cystal ag anfon hwn ymlaen a rhannu’r neges ymysg eich rhwydweithiau
a phawb arall sydd â diddordeb
Mae’r e-bost hwn i rannu
gwybodaeth am Grant y
Rhaglen Cymunedau Gwydn newydd, ac i ddangos i ble y gallwch fynd
i gael mwy o wybodaeth am y grant hwn.
Yn
dilyn y weminar a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf mae’r recordiadau a’r sleidiau
PowerPoint bellach ar gael i chi. Maent yn cynnwys gwybodaeth
ddefnyddiol ar sut i wneud cais am grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol
Cymru.
Gweminarau
Cymru:
https://youtu.be/l-iT2zd-uNM
De Ddwyrain:
https://youtu.be/OI0loGIiVBE
Canol De Cymru:
https://youtu.be/ZbaJT8tnbIU
De Orllewin:
https://youtu.be/GJsOc7u9gvo
Canolbarth:
https://youtu.be/QmIYnc96SoE
Gogledd Ddwyrain:
https://youtu.be/1p9aV8d7FBU
Gogledd Orllewin:
https://youtu.be/IksJYZR4cbc
Morol:
https://youtu.be/1ytXufQLm18
Mae gan y Rhaglen
Cymunedau Gwydn £2m o gyllid grant ar gael i helpu
unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogaeth cymunedau gyda byd natur i
helpu i feithrin cymunedau gwydn.
Gwybodaeth allweddol:
- Grant cystadleuol gwerth £2m ar gael dros
ddwy flynedd. Darparu hyd at fis Ionawr 2024. Hawliad terfynol erbyn mis
Mawrth 2024.
- £10k yw’r isafswm sy’n gymwys (dros un i
ddwy flynedd).
- £125k
yw’r uchafswm os yw’n cael ei gyflwyno o fewn un Flwyddyn Ariannol neu
£250k mewn dwy Flynedd Ariannol.
- I wneud cais am Gyllid, bydd angen i
bartneriaid allanol wneud cais am hyn drwy gael rhif ffurflen gais ar wefan Grantiau Cymunedau Gwydn i
gael mynediad at y ffurflen gais ar-lein
- Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 19 Medi
2022
- Ar agor i unrhyw ymgeisydd
- Gall ymgeiswyr wneud cais ar draws sawl
lleoliad
- Byddwn yn edrych yn ffafriol ar geisiadau
cydweithredol / ar y cyd
- Rhaid iddo fynd i’r afael â’r gweithgareddau
sydd o fewn cwmpas gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth a
awgrymir a chysylltu hyn â’r gweithgareddau rydym yn eu cefnogi; os gall
ymgeiswyr ddangos yn glir eu bod yn mynd i’r afael â sawl thema, byddwn
yn edrych ar hyn yn ffafriol
- Rhaid i geisiadau ddangos gwaith a/neu fuddion
ar lefel gymunedol
Ffynonellau
tystiolaeth defnyddiol:
·
Adroddiad
ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
Yr
hyn y byddwn yn ei Gefnogi gyda’r Cyllid:
- Amrywiaeth
a chynhwysiant, yn enwedig ar gyfer cymunedau llai breintiedig
sydd â llai o fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd, sy’n aml yn byw mewn
ardaloedd lle mae perygl llifogydd uchel a dwysedd poblogaeth uchel a
allai gael eu heffeithio’n andwyol gan newid yn yr hinsawdd ac ansawdd
aer gwael ac a allai ddefnyddio’r amgylchedd fel ased i ddod â
chymunedau gwahanol at ei gilydd, mynd i’r afael ag unigrwydd ac allgau
cymdeithasol ac fel modd o ddatblygu sgiliau.
- Ffyrdd
creadigol o ailgysylltu pobl â natur a’u hamgylchedd lleol i
wella iechyd corfforol a meddyliol, hyder, hunan-barch ac ‘ymddygiadau
gwyrdd’.
- Hyrwyddo
iechyd a llesiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
- Atebion sy’n
seiliedig ar natur sy’n helpu cymunedau i deimlo’n fwy diogel.
- Creu mwy o
gyfleoedd i gael mynediad at fyd natur.
- Gwella
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o, a chyfranogaeth a phrosesau penderfynu
ar effeithiau’r hinsawdd ar raddfa gymunedol.
- Gweithio i
sicrhau bod gan gymunedau ymdeimlad o gysylltiad a grym gyda’u
hamgylchedd lleol a bod ganddynt rôl weithredol o ran sut y caiff
ei reoli a’i wella.
- Creu cyfleoedd
ar gyfer addysg a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion.
Dylech
gyfeirio camau’r broses ymgeisio a phob cwestiwn ynglŷn â’r grant at: grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Caniatewch 48 awr ar gyfer ymateb cychwynnol
Neu
ffoniwch ymholiadau cyffredinol CNC ar:0300 065 300
|
Please forward and spread the word with your networks and other
interested parties
This email is to share
information about the new Resilient
Communities Programme Grant, and shows where you can go to get further
information about this grant.
The
11th of July webinar recordings and PowerPoint slides are now
available for you to access. They contain useful information about how to
apply for Natural Resources Wales Resilient Community Grant.
Webinars
All
Wales:
https://youtu.be/VCPq2pTHtQ4
South
East:
https://youtu.be/3YQptW8kisw
South
Central:
https://youtu.be/ff-oqhT9fzg
South
West:
https://youtu.be/dog7vf0IBHI
Mid:
https://youtu.be/d8umJKqwhCU
North
East:
https://youtu.be/UInQk9ik13Q
North
West:
https://youtu.be/xhBq5drKGdQ
Marine:
https://youtu.be/AUsQSth3fUo
The Resilient
Communities Programme has £2m of
grant funding available to help individuals and organisations increase
community participation with nature to help build resilient communities.
Key information:
- £2m competitive grant
available over 2 years. Delivery up to January 2024. Final claim by
March 2024
- Minimum eligible amount
£10k (over 1 to 2 years).
- Maximum amount £125k if
delivered in one Financial Year or £250k in two Financial Years
- To apply for Funding,
External partners will need to request this via the Resilient
Communities Grants Website application form
number to Access the online application form
- Application deadline 19th
September 2022
- Open to any applicant
- Applicants may apply
across multiple places
- Collaborative / joint
applications will be looked upon favourably
- Must address the
activities in scope using the suggested evidence sources and link this
to the activities we are supporting, if applicants can clearly evidence
they are addressing multiple themes this will be looked upon favourably
- Applications must
demonstrate involvement and/or benefits at community level
Useful evidence sources:
What we will Support with the Funding:
- Diversity
and inclusion, particularly less advantaged communities that
have less access to quality green spaces, often live in areas of flood
risk and high population density which may be adversely affected by
climate change and poor air quality and could use the environment as an
asset to bring different communities together, tackle loneliness and
exclusion and as a vehicle to develop skills.
- Creative
ways to reconnect people with nature and their local environment
to improve physical and mental health, confidence, self-esteem and
‘green behaviours’.
- Promoting
health and wellbeing and tackle health inequalities.
- Nature-based
solutions that help communities to feel safer and more secure.
- Creation of
more opportunities for accessing nature.
- Improving
awareness and understanding of, and involvement in decision making on, climate
impacts at community scale.
- Work to
ensure communities feel a sense of connection and empowerment with
their natural environment and have an active role over how it is
managed and improved.
- Creating opportunities
for education and involvement in citizen science
All grant
queries and application process should be directed to: grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Please allow 48
hours for an initial response
Or
phone NRW general enquiries on: 0300 065 300
|
No comments:
Post a Comment