Cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned wrth adfer:
dysgu gwersi o'r ymateb cymunedol i COVID-19 yng Nghymru
Mae'r
Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth
â Phrifysgol Bryste a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn cynnal
arolwg cenedlaethol o wirfoddolwyr a’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser yn
ddi-dâl i helpu eu cymunedau. Rydym wedi comisiynu Strategic
Research and Insight Ltd (SRI), sef cwmni ymchwil annibynnol trydydd
parti sydd wedi'i leoli yng Nghymru, i gasglu data'r arolwg ar ein rhan,
er mwyn i ni allu deall yn well rôl gweithredu dan arweiniad y gymuned
mewn ymateb i COVID-19 yng Nghymru ac adfer ohono.Mae'r prosiect hwn yn
cael ei gefnogi gan y Sefydliad Iechyd, sy'n ymrwymedig i sicrhau gwell
iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am unrhyw un sydd wedi gwirfoddoli
– o gymorth seiliedig ar grŵp hyd at gynorthwyo cymydog – i ateb ein
harolwg byr er mwyn i ni allu deall yn well sut a pham mae pobl wedi
helpu eraill yn eu cymuned mewn ffyrdd gwahanol ers dechrau’r pandemig.
Cymerwch yr arolwg yma.
|
No comments:
Post a Comment