Tuesday 3 November 2020

Meet the Funder - Garfield Weston Foundation. Thursday 12 November via Zoom

 Cwrdd â’r Cyllidwr: Garfield Weston Foundation

Mae’r Garfield Weston Foundation yn sefydliad teuluol sy’n creu grantiau elusennol. Mae’n cefnogi ystod eang o achosion ledled y DU, gan ddyrannu dros £88 miliwn bob blwyddyn. Fe’i sefydlwyd yn 1958 gan y teulu Weston ac mae’n un o’r sefydliadau elusennol mwyaf yn y DU sydd wedi rhoi cyfanswm o dros £1 biliwn o arian grant.

Mae’r Garfield Weston Foundation yn parhau ar agor ac yn gwbl weithredol wrth greu grantiau yn ystod y cyfnod hwn - ar gyfer ei Raglenni Grantiau Mawr a Grantiau Cyffredin fel ei gilydd. Os ydych chi’n elusen yn y DU gallwch ymgeisio am gyllid ar unrhyw adeg a byddwch yn derbyn penderfyniad ymhen 4 mis. Maent yn creu grantiau anghyfyngedig ar gyfer costau craidd a chostau prosiect ac yn cefnogi prosiectau ar draws: Y Celfyddydau, Addysg, Ieuenctid, Iechyd, Amgueddfeydd a Threftadaeth, Cymunedau, Yr Amgylchedd, Ffydd a Llesiant, yn enwedig i’r rheini sydd mewn angen mewn ardaloedd o anfantais economaidd.

Mae CGGC & TSSW yn falch o groesawu Flora (Pennaeth Grantiau) a Harriet (Rheolwr Grantiau) o dîm y Garfield Weston Foundation er mwyn cyflwyno’u prif gynghorion ar gyfer llunio cais ac yna i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r mynychwyr.

Digwyddiad rhad ac am ddim.

Math o sesiwn:

Mae’r digwyddiad hwn yn fan i bobl ar draws y sector gwirfoddol a thu hwnt rannu eu profiadau a’u syniadau. Bydd hon yn sgwrs wedi’i hwyluso.

Caiff y sesiwn hon ei chyflwyno yn Saesneg.

https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrdd-ar-cyllidwr-meet-the-funder-garfield-weston-foundation-tickets-126776839941.

_____

Meet the Funder: Garfield Weston Foundation

The Garfield Weston Foundation is a family-founded, charitable grant-making foundation, which supports a wide range of causes across the UK, donating over £88 million annually. It was established in 1958 by the Weston family and is one of the largest charitable institutions in the UK which has donated over £1 billion in total.

Garfield Weston Foundation remains fully open and active in making grants at this time, both for its Major Grants and Regular Grants Programmes. If you are a UK charity you can apply for funding at any time and will receive a decision in 4 months. They make unrestricted grants for core and project costs. They support projects across: Arts, Education, Youth, Health, Museums & Heritage, Community, Environment, Faith and Welfare, particularly to those in need, in regions of economic disadvantage.

WCVA & TSSW are pleased to host Flora (Head of Grants) and Harriet (Grants Manager) from the Garfield Weston Foundation team who will present their top tips for making an application and afterwards take part in a Q&A session with attendees.

Attendance is free.

Session type:

This event is a space for people from across the voluntary sector and beyond to share their experiences and ideas. It will be a facilitated conversation.

This session will be delivered in English.

 https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrdd-ar-cyllidwr-meet-the-funder-garfield-weston-foundation-tickets-126776839941.

 

No comments:

Post a Comment