Tuesday, 28 June 2016

Shape your future!

Siapio’ch dyfodol!

Sut beth yr hoffech i ddyfodol eich mudiad chi fod?

Yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni, un o’r prif heriau sy’n wynebu grwpiau trydydd sector yw meithrin ein cydnerthedd a’n gwneud ein hunain yn barod at y dyfodol. Ond sut beth fydd y dyfodol hwnnw? Beth fydd yn ysgogi’r newidiadau sydd o bwys i’r trydydd sector yng Nghymru? Sut ddyfodol rydym ei eisiau, neu eisiau ei osgoi a pham y mae hyn yn bwysig i’n gwaith heddiw?

Dyma’r cwestiynau y bydd ein dwy sesiwn grŵp ar y 1 a 8 o Orffennaf yn rhoi sylw iddynt. Rydym yn eich annog i gymryd rhan gan obeithio y bydd yn eich helpu i siapio dyfodol eich mudiad chithau, yn ogystal â’r sector ehangach. Dylai hefyd eich helpu i integreiddio meddwl hirdymor yn eich gwaith – un o egwyddorion craidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fe fydd y ddwy yn sesiynau drwy’r dydd ac fe’u cynhelir yng Nghaerdydd ar 1 Gorffennaf ac o leoliadau yn y Rhyl, Aberystwyth a Chaerdydd ar 8 Gorffennaf. Fe fydd y sesiynau yn wahanol, y naill yn adeiladu ar y llall, felly gobeithiwn y gallwch chi neu gydweithiwr ymuno â ni yn y ddwy sesiwn.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Ochr yn ochr â’r sesiynau, rydym yn cynnal cyfres o arolygon arlein rheolaidd felly gwyliwch am y rhain hefyd.

Shape your future!


What do you want for the future of your organisation?

In our fast changing world a key challenge facing third sector groups is to build our resilience and make ourselves fit for the future. But what sort of future might that be? What will drive the changes that matter most to the third sector in Wales? What future do we want, or want to avoid and why is this important to our work today?

These are the questions that our two group sessions on the 1 and 8 July are designed to address. We hope that by taking part, it will help you to shape the future of your own organisation, as well as the wider sector. It should also help you integrate longer term thinking into your work – one of the core principles in the Wellbeing of Future Generations Act.

Both will be all-day sessions and will take place in Cardiff on 1 July and from locations in Rhyl, Aberystwyth and Cardiff on 8 July. The sessions will be different, one building from the other, so we hope that you or a colleague would be able to join us for both sessions.

Click here for more information.

Please also look out for our series of regular online polls that will run alongside the sessions.

No comments:

Post a Comment