Monday 7 November 2022

Versus Arthritis - Sesiwn Wybodaeth

 

Sesiwn Wybodaeth: Therapi Llaw

Dydd Mercher 23 Tachwedd

Ar-lein drwy Teams 6-7pm

Ymunwch â ni a'r siaradwr gwadd Alison Brown (Therapydd Galwedigaethol sy'n arbenigo mewn Therapi Llaw) wrth i ni edrych ar rai ymarferion a thechnegau a mynd drwy'r ymarferion, a theclynnau/offer a all helpu mewn bywyd bob dydd. Gofynnwch eich cwestiynau i ni a chael rhagor o wybodaeth. Mae croeso i bawb!

 

Ewch i'n tudalen Eventbrite i gofrestru:https://hand_therapy_information_session.eventbrite.co.uk/

Ystafell yn agor am 5.45yp, mae'r cyflwyniad yn dechrau am 6yp.  Byddwch ar amser.

 

Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol. 


No comments:

Post a Comment