Tuesday 11 October 2016

Cwm Taf: Deall Ein Cymunedau

Annwyl Bartner,

Dros y sawl mis diwethaf mae Grwp Craidd Asesiad y Boblogaeth/Lles Cwm Taf wedi bod yn paratoi cyfres o ddogfennau gwybodaeth. Mae'r dogfennau yma wedi'u dosbarthu yn ôl saith grŵp o glientiaid Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r pedair thema sy'n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac mae cynrychiolwyr allweddol o wasanaethau, sefydliadau a chymunedau wedi rhoi'u mewnbwn iddyn nhw.

Cam nesaf yr asesiadau poblogaeth/lles ydy parhau i drafod gyda'r rhanddeiliaid yma. Bydd angen i'r sgyrsiau yma ganolbwyntio ar y penawdau sy'n deillio o'r dogfennau gwybodaeth. Mae yna dogfennau crynno ar gael ar y Hwb Cwm Taf.

Felly, rydyn ni'n cynnal cyfres o weithdai i randdeiliaid ym mis Hydref a mis Tachwedd.

Cynhalwyr/Gofalwyr (gan gynnwys cynhalwyr ifainc a'r rheiny sy'n rhoi gofal i bobl hŷn)
Lles diwylliannol
Iechyd y Meddwl (oedolion/plant)
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
Asesiad Lles – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
20/10/2016
26/10/2016
31/10/2016
9:30yb-12:30yp
9:30yb-12:30yp
1:00yp-4:00yp
The Feel Good Factory
Abercynon Road, Ynys-boeth, RhCT
CF45 4XZ
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
Fairfield Lane, Y Ddraenen Wen, RhCT
CF37 5LN
Coleg y Cymoedd – Campws Aberdâr
Cwmdare Road, Aberdâr, RhCT
CF44 8ST

Lles amgylcheddol
Hen bobl (gan gynnwys dementia) ac anabledd corfforol (gan gynnwys nam ar y synhwyrau)
Lles economaidd
Asesiad Lles – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
Asesiad Lles – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
04/11/2016
08/11/2016
10/11/2016
10:30yb-3:15yp
1:00yp-4:00yp
1:00yp-4:00yp
Canolfan Fusnes Orbit
Parc Busnes Rhyd-y-car,
Merthyr Tudful
CF48 1DL
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach
East Street, Glynrhedynog, RhCT
CF43 3HR
Theatr y Parc a'r Dâr
Station Road, Treorci,
CF42 6NL

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol
Anabledd Dysgu (gan gynnwys awtistiaeth)
Lles cymdeithasol
Plant a phobl ifainc (gan gynnwys plant dan adain gofal yr Awdurdod a phlant mewn angen)
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
Asesiad Lles – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Asesiad o Anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Boblogaeth
15/11/2016
17/11/2016
22/11/2016
23/11/2016
9:30yb-12:30yp
1:00yp-4:00yp
IG
9:30yb-12:30yp
Clwb y Byddar, Pontypridd
1, Lanpark Road,
Y Graig-wen,
Pontypridd, RhCT
CF37 2DH
Canolfan Soar
Pontmorlais, Merthyr Tudful
CF47 8UB
IG
Clwb Rygbi Pontypridd
Sardis Road, Pontypridd, RhCT
CF37 1HA

Dyma wahoddiad i chi i ddod i un neu ragor o'r gweithdai hynny, fel sy'n berthnasol i'ch gwaith.

Caiff pob gweithdy ei hwyluso'n annibynnol.  Y nod yw dechrau ymchwilio i'r manylion sydd y tu ôl i'r penawdau – pam mae materion/bylchau'n bodoli a sut y gall rhanddeiliaid geisio datblygu atebion ar y cyd.

Bydd y 'canlyniadau' sy'n deillio o'r gweithdai yma yn cyfrannu at ailddrafftio'r dogfennau gwybodaeth, a fydd yn dod yn Asesiad Anghenion y Boblogaeth ac Asesiad Lles. Bydd y naill ddogfen a'r llall yn allweddol o ran cynllunio, polisïau, comisiynu, dod i benderfyniadau, a chynllunio gwasanaeth a'i ddarparu ar draws sefydliadau'r gwasanaethau cyhoeddus ac ar draws ardal Cwm Taf. Dyma'ch cyfle i sicrhau bod eich gwasanaeth/sefydliad yn cael ei gynrychioli.

GWYBODAETH BWYSIG:

·         Cadwch le mewn sesiwn o'ch dewis drwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein. Mae copïau caled o'r ffurflen archebu ar gael ar gais.

·         Bydd modd i gadw lle yn cau dau diwrnod gweithio cyn pob gweithdy.

·         Byddwn ni'n anfon rhagor o wybodaeth maes o law.

·         Byddwch gystal â chofrestru ar gyfer un achlysur i bob unigolyn, lle bynnag y bo'n bosibl. Dim ond hyn-a-hyn o leoedd sydd i'w cael. Meddyliwch hefyd am gynrychiolaeth mewn achlysuron perthnasol i osgoi dyblygu a dyrannu sawl lle i'r un gwasanaeth/sefydliad.

Os oes unrhyw gwestiwn gennych chi, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi'n fuan!

Cofion,

Deall Ein Cymunedau

No comments:

Post a Comment