Tuesday 11 October 2016

Hate Crime Awareness Event

Annwyl Gydweithiwr
Rydyn ni wrth ein bodd i'ch gwahodd chi i'n hachlysur Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb, sy'n digwydd am 4pm, ddydd Iau 13 Hydref 2016 yn Eglwys Unedig Dewi Sant, Heol Gelliwastad, Pontypridd.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb. Bydd yn tynnu sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo yn ardal Cwm Taf i godi ymwybyddiaeth o drosedd casineb, a chefnogi'r sawl sy'n dioddef yn sgil trosedd casineb. Bydd ein siaradwyr gwadd yn disgrifio'u profiadau a thrafod sut i beidio â sefyll o'r neilltu.
Mae ein siaradwyr gwadd yn cynnwys:
Steve Jenkins, chwaraewr pêl-droed Cymru, a oedd yn rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Merthyr Tudful tan yn ddiweddar. Bydd Steve yn trafod ei waith gyda'r elusen addysg, Show Racism the Red Card.
Bydd Gemma Kennedy, sy'n byw yn Hirwaun, yn rhannu ei phrofiadau o fod yn ddioddefwr trosedd casineb yn erbyn pobl anabl.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod yr achlysur. Disgwylir i'r achlysur orffen am 5.30pm.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd, felly, ffoniwch Sian Edwards ar 01443 424194 neu anfon e-bost at Sian.Edwards@rctcbc.gov.uk i gadarnhau y byddwch chi'n dod.
Yn gywir
Melanie Warburton ar ran Grŵp Cydlyniant Cymunedol Cwm Taf

Dear Colleague
We are delighted to invite you to our Hate Crime Awareness Event which takes place at 4pm on Thursday 13th October 2016, at St David’s Uniting Church, Gelliwastad Road, Pontypridd. 
The event is being held during Hate Crime Awareness Week and will highlight the ongoing work being conducted in the Cwm Taf area to raise awareness and support victims of hate crime. Our guest speakers will describe their experiences and talk about how we should not be a bystander to hate.
Our guest speakers include:
Steve Jenkins, a Wales International Footballer, who until recently was manager of Merthyr Town Football Club. Steve will discuss his work with the educational charity Show Racism the Red Card.
Gemma Kennedy, who resides in Hirwaun will share her experiences of being a victim of disability hate crime.
Light refreshments will be provided during the event, which is scheduled to conclude at 5.30pm.
We look forward to you joining us.  As space is limited please contact Sian Edwards on 01443 424194  or email Sian.Edwards@rctcbc.gov.uk to confirm your attendance.
Yours sincerely
Melanie Warburton on behalf of the Cwm Taf Community Cohesion Group

No comments:

Post a Comment